Rhoi adborth am ein cwrs hyfforddiant.
Mae'ch adborth chi'n bwysig er mwyn ein helpu i ddatblygu ein hadnoddau hyfforddi ymhellach.
Erbyn heddiw, mae HIV yn gyflwr iechyd hirdymor y gallwn ei reoli, a diolch i driniaeth effeithiol, gall rhywun fel fi fyw i oedran teg, gan heneiddio’n iach a hapus.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod llawer o fythau a chamddealltwriaeth sy’n gysylltiedig ag HIV, felly hoffem sicrhau bod gan bobl y wybodaeth a’r ddealltwriaeth gywir am HIV i allu darparu’r gofal gorau.
Dyw gofalu am rywun sydd gydag HIV ddim yn wahanol i ofalu am rywun heb HIV, a chofiwch na allwch chi gael HIV trwy ofalu am rywun.
Dydw i ddim am gael fy nhrin yn wahanol i neb arall gan fy ngofalwyr.
Dwi’n berffaith iach, alla’i ddim pasio’r feirws ymlaen, a hoffwn gael fy nhrin gyda’r un caredigrwydd a thosturi â phawb arall sydd angen cymorth. Mae pobl sy’n byw gydag HIV eisiau gallu cael mynediad at wasanaethau heb ofni gwahaniaethu.
Hoffwn ddiolch i’r holl ofalwyr hynny sy’n gweithio gyda phobl dan amgylchiadau digon heriol weithiau.
Po fwyaf o wybodaeth a dealltwriaeth sydd gennych chi, hawsa’n byd fydd eich swydd, dwi’n grediniol o hynny – felly diolch yn fawr. Diolch o galon am roi o’ch amser i ddysgu mwy am HIV.
Dwi’n siŵr eich bod yn cytuno y dylai pobl sy’n byw gydag HIV ac sy’n derbyn cymorth gofal cymdeithasol, gael eu trin gyda’r un parch ac urddas ag unrhyw un arall sy’n cael cymorth gennym ni.
Dwi’n edrych ymlaen at rannu’r cwrs hwn gyda fy nghydweithwyr, oherwydd mae’n hollbwysig rhannu gwybodaeth gywir gyda’r rhai sy’n darparu gofal, fel nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i boeni yn ei gylch.
Diolch am gymryd rhan yn ein rhaglen hyfforddi ar-lein. Gobeithio iddi fod o fudd i chi ac y byddwch yn ei rhannu gyda’ch cydweithwyr. Gobeithio bod y rhaglen hyfforddi hon wedi eich grymuso i ddarparu gofal rhagorol i bobl sy’n byw gydag HIV nawr ac yn y dyfodol.
Hoffem gael eich adborth ar ein rhaglen hyfforddi. Os gallwn ni’ch helpu chi i wella ymwybyddiaeth o HIV lle rydych chi’n gweithio, cofiwch gysylltu â ni.
Diolch am gwblhau ein hyfforddiant ‘Ni all basio ymlaen’ ar gyfer gofal cymdeithasol.
Ewch ati i lenwi’r ffurflen adborth.