Triniaeth HIV

Mae meddyginiaeth HIV yn lleihau’r llwyth feirysol (faint o HIV sydd yn y gwaed) i lefelau anghanfyddadwy. Unwaith y bydd gan rywun HIV sy’n anghanfyddadwy, does dim modd pasio’r HIV ymlaen, ac mae ei iechyd wedi’i amddiffyn.

Mae triniaeth HIV yn caniatáu i bobl sydd gyda’r feirws i’w gadw dan reolaeth. Mae’n golygu y gallan nhw fyw bywydau hir ac iach.

Trwy gymryd triniaeth HIV, rydyn ni’n gwybod na all y rhai sydd gyda’r feirws ei basio ymlaen i’w partneriaid rhywiol nac i unrhyw un arall.

Mae triniaeth HIV yn cael ei rhoi i bobl gan eu tîm Clinig HIV, sef eu meddyg HIV fel arfer.

Fel arfer, byddan nhw’n casglu eu triniaeth HIV o fferyllfa’r ysbyty neu bydd yn cael ei anfon i’w cartref.

Heddiw mae pobl yn dechrau triniaeth HIV cyn gynted ag y byddan nhw’n cael diagnosis. Wrth i bobl heneiddio gydag HIV , efallai y byddan nhw’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer cyflyrau eraill hefyd.

Efallai y byddan nhw’n defnyddio pethau fel trefnwyr tabledi neu larymau i’w hatgoffa i gymryd eu holl dabledi.

Sut mae triniaeth HIV yn gweithio

Dydy triniaeth HIV ddim yn gwella HIV, ond mae’n atal y feirws rhag atgynhyrchu yn y corff.

Gall leihau faint o feirws sydd yn y gwaed i lefelau anghanfyddadwy, sy’n golygu na allai basio HIV ymlaen.

Rydyn ni’n weithiau’n galw triniaeth gyda chyffuriau gwrth-HIV yn therapi cyfunol oherwydd bod pobl fel arfer yn cymryd dau neu dri o gyffuriau gwahanol ar yr un pryd – sy’n aml yn cael eu cyfuno’n un dabled.

Yn weddol ddiweddar, datblygwyd triniaeth y gellir ei chwistrellu, sy’n cael ei rhoi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ar ffurf dau bigiad bob deufis.

Pam mae triniaeth HIV yn bwysig i bobl gydag HIV

Dyw triniaeth HIV ddim yn fy ngwella i o HIV, ond mae’n atal y feirws rhag atgynhyrchu yn y corff a’m gwneud i’n sâl.

Bydda i’n parhau i gymryd meddyginiaeth am weddill fy oes. Mae’n bwysig i mi gymryd fy nhriniaeth HIV oherwydd ei fod yn lleihau faint o feirws sydd yn y system ac yn ei leihau i lefel anghanfyddadwy, sy’n golygu na alla i basio HIV ymlaen.

Yn bersonol, dwi’n cymryd un dabled y dydd ac yn ei chymryd gyda’r nos ar ôl bwyta, tua 7 yr hwyr fel arfer, ond mae pobl eraill yn cymryd dwy neu dair tabled.

Dwi’n cymryd tair pilsen ar gyfer HIV bob bore. Dwi’n cymryd un bilsen y dydd, bob dydd. Mae cymryd fy nhriniaeth bob dydd ar yr un pryd yn bwysig i’m hiechyd a fy lles.

Mae’n bwysig bod pobl sy’n byw gydag HIV yn gallu cymryd eu meddyginiaeth yn y ffordd orau iddyn nhw. Mae’n hollbwysig i mi wybod bod gen i reolaeth dros sut, pryd a lle dwi’n cymryd y feddyginiaeth.

Mae triniaeth HIV yn galluogi pobl i gadw eu HIV dan reolaeth, gan olygu y gallan nhw ganolbwyntio ar fyw’n dda, a hynny heb ofni pasio ymlaen HIV.

Mae pobl sydd gydag HIV yn aml yn dweud eu bod nhw’n teimlo wedi’u grymuso wrth iddyn nhw gymryd eu triniaeth.

Bydd pobl sydd gydag HIV wedi hen arfer cymryd eu meddyginiaeth ar amser penodol, ac mewn ffordd benodol.

Efallai y byddan nhw ei chymryd cyn mynd i’r gwely, fel eu bod nhw’n cysgu trwy unrhyw sgileffeithiau posibl, neu gyda’u pryd min nos os oes angen cymryd eu triniaeth gyda bwyd iddi weithio’n effeithiol.

Triniaeth HIV – presgripsiynu a chymryd

Mae pobl sy’n defnyddio pilsen i drin HIV, yn gorfod ei chymryd yr un pryd bob dydd. Mae rhai pobl yn cymryd meddyginiaethau hŷn ddwywaith y dydd.

Mae meddyginiaethau HIV yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan feddygon HIV, fferyllwyr a nyrsys arbenigol HIV mewn ysbytai.

Mae pobl sydd gydag HIV yn casglu eu meddyginiaeth o fferyllfeydd ysbyty, neu mae’n cael ei hanfon i’w cartref. Dydy meddygon teulu ddim yn rhoi meddyginiaeth HIV ar bresgripsiwn, ond fel arfer, maen nhw’n gwybod bod claf yn ei chymryd.

Mae triniaeth y gellir ei chwistrellu yn ffordd newydd o roi meddyginiaethau HIV i bobl, a dim ond ychydig iawn o bobl sy’n derbyn triniaeth o’r fath ar hyn o bryd. Dim ond nyrsys neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n rhoi triniaeth y gellir ei chwistrellu, a hynny bob deufis.

Hunanfeddyginiaethu mewn cartrefi gofal

Fel y noda canllawiau NICE a CQC, dylid helpu pobl sydd gydag HIV i gymryd eu meddyginiaeth eu hunain pan fyddan nhw mewn cartref gofal.

Sgileffeithiau

Nid pawb sy’n profi sgileffeithiau triniaeth HIV, ond os ydyn nhw, maen nhw’n ysgafn ar y cyfan, yn hawdd i’w trin ac yn diflannu’n sydyn iawn.

Mae sgileffeithiau cyffredin yn cynnwys:

  • dolur rhydd
  • cyfogi neu chwydu
  • cur pen
  • blinder
  • brech.

Gall meddyg HIV ddewis cyfuniad o gyffuriau gyda’r bwriad penodol i osgoi neu leihau’r risg o sgileffeithiau penodol.

Efallai bod gan bobl sy’n byw gydag HIV hirdymor anawsterau iechyd a chyflyrau eraill a waethygir gan driniaethau HIV cynnar.

Roedd rhai cyffuriau gwrth-HIV ar ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au yn gwneud pobl yn sâl, neu wedi cael effaith hirdymor ar eu hiechyd.

Dylid gofyn i bobl sydd gydag HIV am unrhyw sgileffeithiau, a materion iechyd sy’n gysylltiedig â’u statws HIV yn ystod eu hasesiad gofal.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button