Hanner Marathon Caerdydd - Dydd Sul 6 Hydref 2024
Hanner Marathon Caerdydd - Prifysgol Caerdydd, Dydd Sul 6 Hydref 2024
Rydyn ni’n falch iawn o gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, a fydd yn cael ei chynnal am yr 21ain gwaith.
Mae’r cwrs gwastad, cyflym yn pasio holl olygfeydd mwyaf trawiadol a thirnodau mwyaf eiconig y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd.
Rydyn ni’n falch iawn o’n cangen yng Nghymru – Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030.
Sut mae gwneud cais
Mae gennym nifer o leoedd wedi’u gwarantu yn Hanner Marathon Caerdydd, a byddai’n wych pe gallech chi ymuno â’n tîm.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad gwych hwn, cofrestrwch nawr gan ddefnyddio’r botwm pinc.
Ymuno â’n tîm ar ôl i chi ennill eich lle
Os byddwch chi’n dewis ein cefnogi ni drwy godi arian ar ôl i chi ennill eich lle, byddwch yn cael yr un gefnogaeth wych â’n llefydd elusennol a byddwch yn gallu gosod eich targed codi arian eich hun.
Sut y byddwn yn eich cefnogi chi
Byddwn yma i’ch cefnogi o’r eiliad y byddwch yn cofrestru i’r eiliad y byddwch chi’n croesi’r llinell derfyn.
Ai dyma eich hanner marathon cyntaf? Darllenwch ein hawgrymiadau gwych i redwyr newydd gan Annie Foulds, sy’n un o’n cefnogwyr ac yn rhedwraig marathon profiadol.
Rydyn ni’n cynnig gostyngiad arbennig ar sesiynau tylino chwaraeon, aciwbigo a ffisiotherapi i holl redwyr Tîm Terry.
Dyma’r manteision eraill a gewch wrth ymuno â Thîm Terry:
- Fest redeg Ymddiriedolaeth Terrence Higgins am ddim gyda’ch enw arni.
- Canllaw cynhwysfawr i helpu i roi hwb i’ch gwaith codi arian.
- Cefnogaeth gan ein tîm ymroddedig i’ch helpu gyda’ch hyfforddiant a’ch dulliau codi arian.
- Cyfle i gwrdd a gwneud ffrindiau gyda phobl debyg i chi sy’n cefnogi’r un achos.
- Newyddion a diweddariadau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith, ein hymgyrchoedd a’n gwasanaethau.
Rydyn ni yma i helpu
Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, a sut bynnag yr hoffech godi arian, rydyn ni yma i chi. Gydag awgrymiadau codi arian, cyngor am gynnal digwyddiadau, a deunyddiau codi arian, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich dull o godi arian yn llwyddiant llwyr.
Sut bynnag y byddwch yn dewis codi arian, rydym am glywed popeth amdano. Cysylltwch â ni a gadewch i ni wybod eich cynlluniau, a byddwn ni yma i gynnig ein cefnogaeth. E-bostiwch [email protected]
Trwy godi arian gyda ni gallwch chi helpu i ddod ag epidemig byd-eang sydd wedi lladd 38 miliwn o bobl i ben. Gyda’n gilydd gallwn ddod ag achosion newydd o HIV i ben yn y DU erbyn 2030