Mynd i’r afael â Chyfraddau HIV yng Nghymru trwy bilsen atal am ddim

Nod ein hymgyrch newydd yw codi ymwybyddiaeth yng Nghymru am argaeledd PrEP.

Rydym wedi lansio ymgyrch newydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i godi ymwybyddiaeth yn lleol am bilsen am ddim sy’n amddiffyn rhag dal HIV. Mae’r bilsen ar gael trwy glinigau iechyd rhywiol.

Mae PrEP (proffylacsis cyn-amlygiad) yn gyffur sy’n ddiogel ac yn effeithiol ac o’i gymryd gan bobl HIV-negyddol cyn ac ar ôl rhyw mae’n lleihau’r risg o gael HIV.

Mae’r mwyafrif helaeth o ddiagnosisau HIV yng Nghymru yn cael eu trosglwyddo’n rhywiol, gyda 47.5% o ddiagnosisau newydd ers 2011 yn cael eu priodoli i ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion, tra bod 31.6% o ddiagnosisau HIV yn cael eu caffael trwy gyswllt heterorywiol. Mae cynnydd cyson yn nifer y bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru, sy’n adlewyrchu cynnydd mewn goroesiad a diagnosis newydd.

Mae’r ymgyrch yn bartneriaeth rhyngom ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r neges ‘PrEP protects’ yn cael ei rhannu ledled Cymru drwy hysbysebu yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a’r Wyddgrug yn ogystal ag ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r bilsen atal HIV wedi bod ar gael drwy’r GIG yng Nghymru ers 2017 a nawr mae’r gwaith hwn yn gobeithio cynyddu ymwybyddiaeth o’i fanteision i’r rhai sydd mewn perygl o HIV.

Mae’r ymgyrch yn targedu’n bennaf y grwpiau y mae HIV yn effeithio fwyaf arnynt yng Nghymru, gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol, Affricanaidd Du a phobl drawsrywiol.

Yng Nghymru, mae PrEP ar gael am ddim drwy glinigau iechyd rhywiol ochr yn ochr â chyngor cyfrinachol am sut mae’n gweithio ac a allai fod yn addas i’r unigolion dan sylw.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Ymgynghorydd Arweiniol Proffesiynol Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Rydym am i gynifer o bobl â phosibl wybod am fanteision PrEP ar gyfer amddiffyn rhag HIV. Nod yr ymgyrch yw cael pobl yng Nghymru i siarad am PrEP a darganfod mwy yn ein clinigau iechyd rhywiol lleol a sut i gael mynediad at y gwasanaeth hwn.

‘Fe wyddon ni nad yw llawer o bobl yn gwybod faint o gynnydd sydd wedi’i wneud o ran atal HIV ac nad ydynt erioed wedi clywed am PrEP hyd yn oed. Rydyn ni eisiau newid hynny gyda’r ymgyrch “PrEP protects”.’

Dywedodd Richard Angell, ein Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd: ‘Mae PrEP yn newidiwr sefyllfa ar gyfer atal HIV ac yn hanfodol wrth i ni nawr weithio i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030. Rydyn ni’n cymeradwyo Iechyd Cyhoeddus Cymru am gymryd agwedd ragweithiol o ran defnyddio PrEP a’i gwthio i godi ymwybyddiaeth yn lleol.

‘Mae HIV wedi newid yn sylweddol o’r 1980au. Heddiw, mae rhywun sy’n profi’n bositif yn gallu byw bywyd hir a boddhaus. Mae triniaeth effeithiol yn golygu na allant drosglwyddo’r firws a gallant ddisgwyl byw cyhyd ag unrhyw un arall. Gall pobl HIV negatif gymryd PrEP i amddiffyn eu hunain rhag HIV, a fyddai wedi bod yn annirnadwy 40 mlynedd yn ôl. Po fwyaf y gallwn weiddi am y cynnydd hwn, ac ennyn diddordeb pobl ynddo, y mwyaf y byddwn yn mynd i’r afael â’r stigma a’r wybodaeth anghywir sy’n dal i fod yn gysylltiedig â HIV.’

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am PrEP a sut i gael mynediad ato yng Nghymru.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button