
Lleisiau Cadarn
Clywch yn uniongyrchol gan bobl sy'n byw gyda HIV trwy archebu sesiwn Lleisiau Cadarn (Positive Voices).
Mae ein tîm o wirfoddolwyr hyfforddedig yn rhannu eu profiad o fyw gyda HIV i helpu i addysgu a rhoi diwedd ar y stigma. Mae’r sesiynau hyn am ddim i sefydliadau addysgol.
Gall HIV effeithio ar unrhyw un, ac yng Nghymru, mae cynnydd o 10% bob blwyddyn yn nifer y bobl sy’n byw gyda HIV . Mae gwybodaeth am HIV yn aml yn seiliedig ar yr argyfwng AIDS yn y 1980au a’r 1990au yn hytrach na realiti byw gyda HIV yn yr 21ain ganrif, a gall gwybodaeth hen ffasiwn olygu y gall pobl sy’n byw gyda HIV wynebu rhagfarn a gwahaniaethu.
Mae siaradwyr Lleisiau Cadarn yn darparu sgyrsiau llawn gwybodaeth a sesiynau addysg i gynulleidfaoedd addysg, corfforaethol, y sector cyhoeddus a chynulleidfaoedd eraill am eu profiadau personol o fyw gyda HIV. Maent yn ymdrin ag atal HIV a negeseuon rhyw diogelach ac yn rhannu eu profiadau eu hunain o fyw gyda HIV, a gallant gyflwyno sgyrsiau wyneb yn wyneb, ar-lein neu gan ddefnyddio model hybrid.
Archebwch Siaradwr Lleisiau Cadarn i’ch sefydliad
I wneud cais am siaradwr Lleisiau Cadarn, cwblhewch y ffurflen archebu ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm drwy [email protected] am sgwrs heb ddim ymrwymiad.
Mae ffioedd yn berthnasol i’r rhan fwyaf o sgyrsiau. Cysylltwch â ni am ddyfynbris wedi’i deilwra.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr Lleisiau Cadarn, gallwch gysylltu â Jen Illman drwy [email protected]