Mae Terrence Higgins Trust Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda phobl Cymru i sefydlu grŵp cymorth cymheiriaid ar-lein arloesol ledled y wlad ar gyfer pobl sydd â phrofiad bywyd o HIV.
Gan ddechrau ym mis Ionawr, archwiliodd y rhaglen cynnwys defnyddwyr pedair sesiwn ‘Cyflwyniad i gymorth gan gymheiriaid ar-lein’ amrywiaeth o faterion hollbwysig yn ymwneud â datblygu cymorth ar-lein i bobl sy’n byw ag HIV yng Nghymru.
Gyda chyd-gynhyrchu wrth galon y grŵp cymorth cymheiriaid ar-lein newydd, nod y sesiynau oedd sicrhau bod pobl sy’n byw ag HIV ar y blaen o gynllunio’r prosiect hyd at gyflawni a chyfeiriad y dyfodol.
Mewn cydweithrediad â sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n byw ag HIV yng Nghymru, gwahoddwyd cyfranogwyr o bob rhan o’r wlad i fynychu’r gyfres o weithdai ymchwilio a oedd yn canolbwyntio ar:
- yr hyn mae cymorth cymheiriaid ar-lein yn ei olygu i’r gymuned o bobl sy’n byw ag HIV yng Nghymru
- sut mae mannau diogel ar-lein yn edrych i bobl sy’n byw ag HIV
- sut byddai cytundeb grŵp ar gyfer y sesiynau cymorth cymheiriaid newydd yng Nghymru yn edrych
- sut i hwyluso’r cyfranogiad mwyaf posibl a sicrhau bod y sesiynau’n berthnasol, yn rymusol ac yn ystyrlon i’r rhai sy’n mynychu
- sut y gall aelodau’r grŵp dyfu a dysgu gyda’i gilydd ac oddi wrth ei gilydd
- manylion yr hyn y byddai pobl yn ei hoffi o gyfeiriad y grŵp yn y dyfodol.
Wedi’i gyflwyno gan Gydlynydd Cymorth Cyfoedion Ar-lein Terrence Higgins Trust Cymru ac aelodau o dîm Byw’n Dda Terrence Higgins Trust, cafodd y grŵp ei gynllunio a’i hwyluso gan bobl sy’n byw ag HIV ar gyfer pobl sy’n byw ag HIV.
Fel rhagflaenydd i lansiad mis Chwefror yr arolwg cymorth cymheiriaid Cymru gyfan ar gyfer pobl â HIV, mae’r sesiynau hyn wedi gosod y sylfeini ar gyfer y grŵp cymorth cymheiriaid ar-lein arloesol ar gyfer y rhai sy’n byw mewn ac yn defnyddio gwasanaethau triniaeth HIV ledled y wlad.
Os hoffech ragor o wybodaeth am gymorth gan gymheiriaid HIV ar-lein yng Nghymru, cysylltwch â [email protected]