Cymru yw man cychwyn ein stori. Cafodd ein henw Terry Higgins, a enwyd yn berson cyntaf i farw o salwch yn ymwneud ag AIDS yn y DU, ei eni a’i fagu yng Nghymru. Cyd-sefydlodd ei ffrind a’i gyd-Gymro, Martyn Butler, Terrence Higgins Trust er cof amdano.
Heddiw, rydyn ni’n darparu gwasanaethau iechyd rhywiol yn ne Cymru ac yn ymgyrchu ar faterion yn ymwneud ag iechyd rhywiol a HIV. Rydyn ni’n gweithio gyda’r Senedd a Llywodraeth Cymru i ddod ag achosion newydd i ben erbyn 2030 yng Nghymru a sicrhau bod pobl sy’n byw gyda HIV yn byw’n dda.
I nodi’r cysylltiad hirsefydlog hwn, fe lansion ni flwyddyn ein pen-blwydd yn 40 oed drwy gynnal digwyddiad arbennig yn y Senedd gyda’r prif siaradwr, y Prif Weinidog Mark Drakeford. Gyda’i gilydd, roedd y digwyddiad yn adlewyrchu ar ddeugain mlynedd o HIV yng Nghymru: y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Cyflwynodd Jeremy Miles AS, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, y digwyddiad a siaradodd am hanes Terrence Higgins Trust a Terry Higgins ei hun.
Lansiodd y Prif Weinidog yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun gweithredu HIV Cymru yn y digwyddiad.
Croesawodd Ian Green, ein Prif Weithredwr, y cynllun ac ychwanegodd rai pwyntiau yr hoffem eu gweld yn cael eu cynnwys ynddo.
Siaradodd Mercy Shibemba a Gian Molinu – a gafodd sylw yn HIV yr 21ain Ganrif, traethawd ffotograffig a gynhyrchwyd gan ein ffrindiau yn Fast Track Caerdydd a’r Fro – am eu profiad o fyw gyda HIV yng Nghymru heddiw.
Siaradodd Martyn Butler, ein cyd-sylfaenydd, am ei gyfeillgarwch â Terry Higgins, a dadorchuddiodd bortread newydd ohono gan yr artist Cymreig, Nathan Wyburn.
Yn y digwyddiad, gwahoddodd y Prif Weinidog y rhai sy’n rhannu ein gweledigaeth o ddim achosion newydd o HIV erbyn 2030 i roi adborth ar y Cynllun Gweithredu drafft ar HIV. Rydyn ni angen i’ch llais gael ei glywed yn yr ymgynghoriad hwnnw – ac rydyn ni wedi gwneud pethau’n hawdd gyda’n ‘hymateb a argymhellir’.