‘TikTok oedd y lle cyntaf i mi ddweud erioed “Rwy’n HIV positif” yn uchel. Allwn i byth ei ddweud o’r blaen,’ meddai Marlon, a gafodd ddiagnosis o HIV yn 20 oed yn unig.
‘Pe bawn i gartref ac yn gorfod siarad am fy statws HIV – hyd yn oed os oedd eisoes gyda rhywun yn y tŷ – byddai’n rhaid i mi anfon neges destun atynt. Roeddwn i’n teimlo gormod o gywilydd i’w ddweud yn uchel.”
Cafodd Marlon ddiagnosis o HIV ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty oherwydd haint firaol, ac I ddechrau y credwyd mai septisemia ydoedd.
‘Roedden nhw’n gofyn am fy nghaniatâd i brofi am HIV , ac i ddechrau fe wrthodes i– roeddwn i’n meddwl nad oes unrhyw ffordd y gallai fod yn HIV… Ond fe wnes i ildio, a dyna pryd ges i’r diagnosis.
‘Roeddwn i’n hollol ar fy mhen fy hun pan glywais i, ac fe wnes i ei gadw i mi fy hun am y misoedd cyntaf. Roedd ofn cael fy ngwrthod yn ormod – roeddwn i’n gwrthod fy hun felly roedd yn hawdd ofni gwrthodiad fy nheulu.’
Mae Marlon yn cyffelybu rhannu ei statws HIV gyda’i deulu â dod allan fel dyn hoyw: ‘Roedd dod allan fel dyn hoyw yn teimlo’n llawer haws nag yr oeddwn i’n meddwl. Ond pan wnes i ddarganfod fy mod yn byw gyda HIV meddyliais, “Ai hwn fyddai’r diwedd? A fyddai’r drws ar gau yn fy wyneb?” … Roedd yn bryder mawr i mi.’
Er gwaethaf dechrau triniaeth effeithiol ar unwaith, datblygodd Marlon obsesiwn â glanhau ei hun i gael gwared ar HIV.
‘Roeddwn i’n teimlo’n fudr – yn fudr iawn. Fy ngobaith oedd po fwyaf y byddwn yn glanhau, y gorau y byddwn yn teimlo. Ceisiais a cheisiais, cael cawod dair neu bedair gwaith y dydd, ond nid oedd byth yn gweithio. Roedd yn rhaid i mi geisio cymorth ar ei gyfer yn y diwedd, roeddwn i’n sgwrio fy nghorff cymaint roedd gen i ddoluriau dros fy nghorff i gyd.’
Rhag ofn trosglwyddo’r firws, dechreuodd Marlon rannu ei statws gyda ffrindiau. ‘Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y firws ac roedd arna’ i ofn y byddwn i’n ei drosglwyddo iddyn nhw.’
‘Roeddwn i’n darllen cymaint ar-lein – pobl yn dweud bod “pobl sy’n byw gyda HIV yn afiechyd, yn hynod heintus, yn fudr,”… roeddwn i’n ofni pe bai gen i gymaint â thoriad ar fy llaw byddwn yn ei drosglwyddo, felly fe ddywedais wrthynt. Roedden nhw’n iawn ag e, ond hyd yn oed os oedden nhw, doeddwn i ddim.’
Pan rannodd Marlon ei statws gyda’i deulu agos, credai ei fam yn gyntaf ei fod yn cellwair.
‘Fe geisiodd hi chwerthin, ond rwy’n meddwl mai’r rheswm am hynny oedd ei bod wedi cael cymaint o ofn a sioc.’
Mae’n dweud wrthyf iddi dyfu i fyny gyda phobl a oedd yn byw gyda HIV, a bu farw un o’i ffrindiau agosaf yn y pen draw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS.
‘Dyna ei hatgof olaf o HIV… Pan fydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn HIV positif, dydych chi ddim yn meddwl am yr holl feddyginiaeth sydd ar gael. Nid dyna sy’n dod i’r meddwl. Rydych chi’n mynd yn syth nol i’r HIV yn yr 1980au.’
“Rwy bob amser yn gweld pobl hŷn yn siarad am eu bywydau gyda HIV, ond rwy’n meddwl bod angen I’r genhedlaeth iau gael rhywbeth i uniaethu ag ef.”
— Marlon Van Der Mark
Ond portread anhygoel Russell T Davies o’r union gyfnod hwnnw a daniodd symudiad Marlon tuag at dderbyn a rhannu ei fywyd gyda HIV gyda’r byd ehangach.
‘Mae It’s A Sin wedi fy ngadael i mewn sioc. Cefais fy syfrdanu. Dysgais i bethau na wyddwn i erioed, fel pa mor ynysig oedd pobl sy’n byw gyda HIV.’
‘Fe wnaeth I mi fod yn ddiolchgar fy mod yn byw yn yr oes sydd ohoni gyda’r feddyginiaeth, yr ymchwil a’r gefnogaeth sydd gennym. Mae’n gwneud i mi deimlo mor ddiolchgar i wybod pa mor hawdd yw hi heddiw, hyd yn oed os ydych chi weithiau’n dod ar draws y lleiafrif o bobl ag agweddau negyddol.’
‘Es i drwy gyfnod lle rhoddais y gorau i gymryd fy meddyginiaeth oherwydd byddai’n well gennyf i’r firws wneud yr hyn y mae ei eisiau i mi na cheisio brwydro yn ei erbyn’
‘Ar ôl gwylio It’s A Sin roeddwn i’n teimlo mor hunanol – chawson nhw erioed y dewis hwnnw. Cafodd y gyfres effaith fawr arna i, mewn ffordd dda iawn.’
Mae Marlon eisiau i bobl sy’n gwylio’r gyfres sylweddoli ei bod wedi’i gosod yn y gorffennol, ac i beidio â’i drysu â’r oes fodern.
“Rydyn ni wedi dod mor bell â HIV – rydyn ni’n cael triniaeth effeithiol nawr ac rydyn ni’n gallu byw bywydau normal… rydw i eisiau i bobl sylweddoli bod HIV yn dal i fod yn beth mawr. Dydw i ddim eisiau i bobl golli’r stori y tu ôl iddo.”
“Byddwn i wrth fy modd yn gweld rhywbeth ar y teledu am bobl sy’n byw gyda HIV heddiw.”
Ers gwylio It’s A Sin, mae Marlon wedi siarad am ei fywyd gyda HIV gyda WalesOnline ac wedi dechrau postio fideos am HIV ar blatfform rhannu fideos TikTok, gydag un fideo yn derbyn 150k o ymweliadau o fewn 24 awr.
Wrth I mi ofyn i Marlon am y stigma y mae’n ei wynebu, mae’n ochneidio: ‘Rydw i wedi bod yn aros am hyn.’
‘Roedd rhai o’r sylwadau ar y fideo yn ddrwg iawn. Cefais fy ngalw’n fudr, cefais fygythiadau marwolaeth, dywedwyd wrthyf y dylwn gael fy ysbaddu, bod angen fy rhoi mewn siambr, y dylwn gael fy rhoi i gysgu … Petawn yn agor TikTok ar fy ffôn ar hyn o bryd gallaf warantu byddai rhywun yn dweud rhywbeth.’
Ond mae Marlon eisiau ei gwneud hi’n glir nad yw’r cyfan wedi bod yn negyddol.
‘Dw i wedi cael llawer o gefnogaeth wrth fod yn agored – rydw i mor ddiolchgar am ba mor ffein mae pobl wedi bod. Mae’r da yn gorbwyso’r drwg, hyd yn oed os oes mwy o ddrwg na da – mae’r da yn gwneud ichi anghofio amdano.
‘Rwy wedi cael pobl yn dod ataf a dweud wrthyf am eu diagnosis newydd, yn dweud wrthyf nad ydynt yn gwybod beth i’w wneud neu beth i’w ddweud – maent yn dod ataf yn gyntaf ac yn ymddiried ynof, ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod yn gwneud rhywbeth da ac yn helpu pobl.’
Sut mae Marlon yn meddwl y gallwn fynd i’r afael â’r stigma y mae pobl sy’n byw gyda HIV yn ei wynebu, a chyrraedd ein nod o ddod â throsglwyddiadau newydd i ben erbyn 2030.
‘Petawn I’n cael fy ffordd, byddai’n cael ei ddysgu mewn ysgolion. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd HIV nes i mi ei ddal. Mae pobl yn gofyn imi, “Sut na wyddech chi?” wel, oherwydd ni sonnir amdano. Gallwch chi droi’r teledu ymlaen a gweld hysbysebion am atal cenhedlu a chondomau, ond does dim byd am HIV.’
‘Dim ond nifer penodol o bobl sydd ar TikTok, ar gyfryngau cymdeithasol, a dim ond nifer penodol o bobl sy’n darllen y papurau neu’n gwylio’r teledu. Mae angen inni roi pwyslais ar addysgu pobl am HIV mewn ysgolion.’
‘Rwy’n meddwl y dylai pobl sy’n byw gyda HIV siarad am y peth, mae’n agoriad llygad i bobl… dwi bob amser yn gweld pobl hŷn yn siarad am eu bywydau gyda HIV, ond rwy’n meddwl bod angen I’r genhedlaeth iau gael rhywbeth I uniaethu ag ef.. Dydyn ni ddim yn ei weld ynom ni. Yn enwedig o fewn y gymuned hoyw – mae llawer o bobl i’w gweld yn meddwl mai dim ond pobl hŷn sy’n ei gael, sydd ddim yn wir.
‘Mae yna lawer o gam-gyfathrebu o hyd ynglŷn â HIV. Rwy’n cael llawer o bobl yn rhoi sylwadau “RIP” neu “mor drist rydyn ni’n mynd i’ch colli chi’n fuan” ar fy fideos … dydw I ddim yn gwneud y fideos yma jyst I fi fy hun, ond rydw i eisiau addysgu a helpu eraill.’
‘Mae gen i bobl eraill y mae angen i mi barhau i wneud hyn ar eu cyfer – mae pobl wedi ymddiried ynof ac yna wedi mynd i gael diagnosis neu wedi dechrau eu meddyginiaeth. Rydw i eisiau dal ati oherwydd mae pobl allan yna angen fy nghefnogaeth.’
‘Dydw i ddim yn mynd i stopio… All dim fy rhwystro.’