Mae neges Grindr wedi bod yn atgoffa defnyddwyr yr ap ledled y DU i gael prawf HIV, gan fod arolwg barn newydd gan YouGov yn dangos nad yw dros 80% o oedolion Prydain yn ymwybodol y gallan nhw wneud prawf HIV yn eu cartref. Pan gynigiwyd hwn fel opsiwn, y dewis profi gartref oedd y ffordd fwyaf poblogaidd o brofi am HIV.
Mae’r ymgyrch brofi yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Profi HIV yn Lloegr. Mae Wythnos Genedlaethol Profi HIV Lloegr yn cael ei hariannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac fe’i cyflwynir gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar ran HIV Prevention England i annog pobl i gael prawf. Mae’r neges Grindr yn cael ei hanfon ledled y DU, felly bydd defnyddwyr yng Nghymru hefyd yn cael eu hatgoffa i gymryd prawf. Gall pawb yng Nghymru gael profion am HIV ac am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) am ddim gydol y flwyddyn.
Mae gan Lywodraeth Cymru sawl menter i ddarparu profion rhad ac am ddim, cwbl gyfrinachol i bwy bynnag sydd eisiau hynny. Mae Iechyd Rhywiol Cymru yn darparu pecyn prawf am ddim ar gyfer chlamydia a gonorea ynghyd â HIV, syffilis, hepatitis B, a hepatitis C. Gallwch ddefnyddio’r pecynnau hyn yn eich cartref eich hun ac yna postio’r pecyn i’r labordy yn yr amlen ragdaledig.
Er mwyn cyrraedd y targed o ddileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030, bydd yn hollbwysig dod o hyd i bawb sy’n byw gyda HIV heb ddiagnosis a sicrhau eu bod yn cael triniaeth sy’n achub bywydau. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni gynyddu’r profion HIV ledled y wlad. Er bod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar brofion HIV yng Nghymru, mae’r cyfraddau profi wedi cynyddu’n raddol ers hynny. Wrth gyfuno profion labordy a phrofion cartref, dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 113,097 o bobl wedi cael prawf HIV yn 2023, cynnydd o 12.8% ers 2022. O’r nifer hwn, fe wnaeth 21.4% o bobl benderfynu gwneud y prawf gartref. Mae’n rhaid i ni gynyddu ymwybyddiaeth o’r opsiwn i brofi gartref ar hyd a lled y DU, er mwyn cynyddu cyfraddau profi HIV.
Mae’r prawf yn un rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol. Hefyd, dyma’r unig ffordd i wybod a oes gennych chi HIV ac mae’n werth gwneud hyn oherwydd gall pobl fyw gyda HIV am amser hir heb unrhyw symptomau. Os ydych chi’n HIV negatif, gallwch ddefnyddio amddiffyniad fel PrEP neu gondoms i barhau’n negyddol. Os ydych chi’n HIV positif, gallwch gael triniaeth am ddim a byw bywyd hir ac iach — a dyw pobl ar driniaeth HIV effeithiol ddim yn gallu ei drosglwyddo i bartneriaid.
Dysgwch fwy am brofion HIV yng Nghymru yma.