
Ein Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stuart Smith yn myfyrio ar gyrraedd hanner ffordd Cynllun Gweithredu HIV i Gymru
Ddwy flynedd yn ôl i heddiw, lansiodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023 – 2026. Roedd ei gyhoeddi yn gam mawr ymlaen, gan gyflwyno fframwaith beiddgar ar gyfer gweithredu i ddod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben erbyn 2030 a brwydro yn erbyn stigma HIV ledled y wlad.
Mae hanes HIV yn y DU wedi’i wreiddio yng Nghymru. Terry Higgins, a anwyd ac a fagwyd yn Hwlffordd, oedd y person cyntaf a enwyd i farw o salwch sy’n gysylltiedig ag AIDS yn y DU. Er cof amdano, cydsefydlodd ei gyfaill a’i gyd-Gymro, Martyn Butler, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, yr elusen HIV gyntaf yn Ewrop.
Yn ystod y blynyddoedd mwy diweddar, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran ymdrechion i fynd i’r afael â throsglwyddo HIV. Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i sicrhau bod y cyffur atal HIV, PrEP, ar gael am ddim drwy ein gwasanaeth GIG gwych. Yn 2018, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i addo dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030, gyda’r Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething AS, yn gwneud y cyhoeddiad mewn digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru. Roedd cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu yn gosod Cymru mewn sefyllfa i fynd ymhellach, yn gyflymach.
Rydyn ni’n falch o’r rôl a gyflawnwyd gennym gyda phartneriaid ledled Cymru yn natblygiad y Cynllun Gweithredu HIV a’r rôl rydyn ni’n parhau i’w chwarae wrth ei gyflawni. Yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru, fe wnaethom arwain yr ymgyrch i ehangu nifer y camau gweithredu yn y cynllun o 26 i 30 ac rydyn ni wedi parhau i eirioli dros fuddsoddi mwy mewn cymorth cymheiriaid, profi ac atal.
Ers ei gyhoeddi, bu cynnydd i’w groesawu, gan gynnwys cyflwyno Wythnos Genedlaethol Profi HIV i Gymru a ffurfio Fast Track Cymru. Fodd bynnag, nid oes ymrwymiad allweddol eto i wella prosesau casglu data HIV, gan gyfyngu ar ein gallu i dargedu ymyrraeth yn effeithiol i atal trosglwyddiad a chynorthwyo pobl sy’n byw gyda HIV i aros mewn gofal ac ar driniaeth. Nid yw’r llywodraeth ychwaith wedi cyflawni ei hymrwymiad i ariannu rhwydwaith cymorth cymheiriaid HIV cenedlaethol. Heb hyn, mae cefnogaeth anghyson ar draws y wlad. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn rhedeg gwasanaeth ar-lein – My Community – lle gall unrhyw un sy’n byw gyda HIV o bob rhan o’r DU gael gafael ar gymorth. Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n agos gyda phobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru i ddatblygu grŵp cymorth cymheiriaid ar-lein ledled Cymru, gyda chyd-gynhyrchu wrth ei wraidd. Rhaid i’r llywodraeth gyflawni eu hymrwymiad i rwydwaith cymorth cymheiriaid cenedlaethol, gan ategu’r seilwaith presennol, fel y gall pawb sy’n byw gyda HIV yng Nghymru gael mynediad at gymorth ar-lein ac yn bersonol.
Byddai Terry Higgins wedi troi’n 80 eleni. Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ers ei farwolaeth yn golygu ein bod bellach o fewn cyrraedd i ddod â’r epidemig HIV i ben, rhywbeth na allem fod wedi breuddwydio amdano bedwar degawd yn ôl. Ond gyda dim ond pum mlynedd tan 2030, a llai na 18 mis tan etholiad y Senedd, dim ond os byddwn yn rhoi ein troed ar y sbardun nawr y byddwn yn cyrraedd y llinell derfyn. Bydd ein heiriolaeth dros y flwyddyn nesaf yn hanfodol. Felly os gallwch chi, helpwch ni i droi ein nod yn realiti trwy gyfrannu i gefnogi ein gwaith hanfodol heddiw.