Pencampwr nod 2030 yn dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd

Wrth siarad yn ein digwyddiad pen-blwydd yn 40 yn 2022, dywedodd Jeremy Miles MS fod y freuddwyd o ddod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben bellach yn bosibilrwydd. Nawr ei waith ef yw sicrhau bod y freuddwyd hon yn dod yn realiti.

Mae Jeremy Miles AS wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac, felly, mae’n cymryd cyfrifoldeb am gyflwyno Cynllun Gweithredu Cymru ar HIV a goruchwylio llwybr y genedl i fynd i’r afael â stigma a rhoi diwedd ar drosglwyddo HIV newydd erbyn 2030.

Ymunodd Miles â’r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford AS, i lansio’r Cynllun Gweithredu drafft ar HIV mewn digwyddiad i nodi 40 mlynedd ers marwolaeth y Cymro Terry Higgins, ein cydenw a’r person cyntaf i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS yn y DU. Dadorchuddiodd Miles bortread arbennig iawn o Higgins sydd bellach I’w weld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Wedi’i gyhoeddi yhHydref 2022, mae Cynllun Gweithredu HIV terfynol Cymru – wedi’i ddiwygio o’r 26 cam gweithredu gwreiddiol i 30 – yn nodi fframwaith beiddgar ar gyfer sut y gall Cymru ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â HIV. A hithau’n foment ganolog yn siwrnai HIV Cymru, roedd y Cynllun Gweithredu hwn yn adeiladu ar ymateb Cymru sydd eisoes ar flaen y gad i’r epidemig HIV. Roedd yn anrhydedd i ni ein bod wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu a chroesawyd ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Fast Track Cymru a datblygu system rheoli achosion a gwyliadwriaeth iechyd rhywiol ledled y wlad ac ariannu Wythnos Genedlaethol Profion HIV i Gymru, ochr yn ochr â chamau gweithredu eraill i’w croesawu.

Ochr yn ochr â Phrif Weinidog newydd Cymru – Eluned Morgan AS – a gyhoeddodd, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynllun Gweithredu ar HIV yn 2022, mae gan Miles y cyfle i barhau â rhediad Cymru fel arloeswr yn ei ymateb i HIV a rhaid iddo ddefnyddio ei apwyntiad fel cyfle i adnewyddu ymrwymiad Cymru i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.

Mae cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu a’r gwaith parhaus o gyflawni ei gamau yn gynnydd i’w groesawu, fodd bynnag, mae angen cymryd camau pellach os ydym am ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 a mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â HIV. Mae dwy flynedd ar ôl yn oes y Cynllun Gweithredu Cymru presennol ar HIV ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru yn awr fanteisio ar y cyfle unwaith mewn oes hwn i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes iechyd y cyhoedd ac atal HIV. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau HIV hanfodol sy’n helpu i gefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i fyw’n iach.

Yn ei araith gyweirnod yn ein digwyddiad pen-blwydd yn 40 yn 2022, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd fod “yr epidemig HIV yn ymwneud â mwy na straeon newyddion a niferoedd a’i fod – yn ei hanfod – yn ymwneud â phobl: pobl â bywydau, gyda chariadon, gyda hanes a gobeithion”. Wrth i ni nesáu at 2030, edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ymgorffori profiadau pobl sy’n byw gyda HIV yn ymateb Cymru i HIV a dod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben unwaith ac am byth.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button