
Bydd arddangosfa sy’n cael ei lansio yn PWSH yng Nghaerdydd ddydd Llun yma (9 Mehefin 2025) yn cynnwys portread newydd o Terry Higgins, i nodi’r diwrnod y byddai wedi troi’n 80 oed ddydd Mawrth. Mae’r darn, gan yr artist Darren Varnam, yn rhan o Brosiect Rhuban Rhudd, arddangosfa amlddisgyblaethol sy’n archwilio profiadau o HIV ac o fod yn cwiar yng Nghymru.
Mae’r arddangosfa yn olrhain taith HIV yng Nghymru, o argyfwng i ddyfodol gobeithiol. Heddiw, mae datblygiadau mewn meddygaeth yn golygu y gall pobl sy’n byw gyda HIV ac yn cael triniaeth fyw bywydau normal, iach ac na allan nhw ei basio ymlaen i bartneriaid. Mae’r cynnydd meddygol hwn, ynghyd â phrofion HIV a PrEP, yn golygu ei bod hi’n bosibl rhoi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd yng Nghymru erbyn 2030.
Terry Higgins oedd y person cyntaf i farw o salwch cysylltiedig ag AIDS yn y DU. Cafodd ei eni yn Hwlffordd ym 1945, a bu farw ym 1982 yn ddim ond 37 mlwydd oed. Yn sgil ei farwolaeth, sefydlodd ei bartner Rupert Whitaker OBE a’i ffrind agos Martyn Butler OBE y Terrence Higgins Trust, er cof amdano. Heddiw, mae’r elusen yn cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i fyw’n dda, gan gynnwys darparu cymorth gan gymheiriaid ledled Cymru.
Mae portread Varnam yn dal Terry mewn iwnifform yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol. Mae’r gair ‘Cymru’, wedi’i guddio yn y cymylau y tu ôl iddo, yn atgoffa’r sawl sy’n edrych ar y darlun o wreiddiau Cymreig Terry, gyda ffigyrau yn y cefndir yn cynrychioli’r ymgyrchu a’r gweithredu a ysbrydolwyd gan ei farwolaeth.
Ariannwyd y prosiect gan Tŷ Cerdd a Chyngor Celfyddydau Cymru, mewn ymateb i Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2023.
Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:
‘Wrth i ni nodi’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Terry yn 80 mlwydd oed, rydyn ni’n dathlu ei fywyd a’i waddol anhygoel. Rydyn ni wedi’n cyffwrdd gymaint gan bortread Darren Varnam, sy’n cyfleu hunaniaeth Gymreig falch Terry a’i gyfnod yn y Llynges Frenhinol. Rwy’n gobeithio y bydd y rhai sy’n ymweld yn mynd oddi yma gan wybod ychydig mwy am ei fywyd anhygoel.
‘Bob dydd, er cof am Terry, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino dros fyd heb unrhyw drosglwyddiadau HIV newydd a lle nad yw HIV yn dal neb yn ôl. Gyda’n gilydd, i Terry ac i bawb rydyn ni wedi’u colli, gallwn roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru a chefnogi pawb sy’n byw gyda HIV i fyw’n dda.’
Dywedodd yr artist Darren Varnam:
‘Fel dyn hoyw a wnaeth fyw trwy’r argyfwng AIDS, rwy’n teimlo’n wylaidd iawn i fod yn rhan o’r prosiect ymwybyddiaeth o HIV hwn. Trwy fy nghelfyddyd, rydw i bob amser wedi ceisio dal hanfod yr ysbryd dynol. Nawr, rwy’n falch o fenthyg fy mhortreadau i achos sy’n parhau i fod yn bwysig tu hwnt – gan daflu goleuni ar obaith, gwytnwch, a hanes bywydau sy’n cael eu cyffwrdd gan HIV.
‘Doeddwn i ddim yn teimlo y byddai’n iawn i mi fod yn rhan o brosiect ymwybyddiaeth o HIV yng Nghymru heb i mi sôn am ddyn ac elusen mor eiconig â Terrence Higgins a’r Ymddiriedolaeth. Dyma’r gyntaf yn y DU i gael ei sefydlu mewn ymateb i’r epidemig, ac maen nhw wedi gweithio’n ddiflino ers hynny. Rydw i wedi bod yn falch iawn o fod yn rhan o Brosiect Rhuban Rhudd, ac rydw i bellach yr un mor falch o allu anrhydeddu Terrence Higgins, ar y diwrnod y byddai wedi nodi ei ben-blwydd yn 80 mlwydd oed.’
Dywedodd Gonçalo Fernandes, Cyfarwyddwr y Prosiect:
‘Dechreuais fyfyrio ar y stigma cynnil ond parhaus a brofais, yn enwedig ar apiau dêtio, lle gofynnwyd i mi yn aml a oeddwn i’n ‘lân.’ Er fy mod i’n HIV negatif, roedd y cwestiwn bob amser yn fy ngwneud i’n anghyfforddus. Daeth ag atgof yn ôl o fy 20au cynnar ym Mhortiwgal, pan oedd yn rhaid i mi ymladd am PEP ar ôl dod yn agored i’r feirws. Doedd staff yr ysbyty ddim hyd yn oed yn gwybod am beth roeddwn i’n sôn, ac roeddwn i’n teimlo cywilydd, mod i’n cael fy marnu, ac ar fy mhen fy hun. Mae’r profiad cynnar hwnnw, ynghyd â’r stigma y gwelwn ar-lein, wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i eisiau ymateb yn greadigol – gyda phrosiect amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o HIV ac yn herio’r naratifau sy’n cywilyddio pobl i dawelwch.
‘Mae’r prosiect hwn hefyd yn fath o ymgyrchu a gweithredu. Gyda chefnogaeth fy mhartner—Ruan Martins—a ddaeth â’i gefndir mewn bale a ffilm i’r broses fel Cyfarwyddwr Clyweledol a chyd-gynhyrchydd, a sefydliadau fel On Your Face Collective, yn enwedig Africa a Cerian, rydw i wedi medru siapio nid yn unig y cyfeiriad artistig ond yr ochr ymgysylltu â’r gymuned o’r gwaith. Roedd yr artistiaid Darren a Niamh hefyd yn allweddol, gan fy helpu i adeiladu a chynnal y prosiect. Rwy’n credu bod rhaid i gelf siarad â’n hamseroedd ni. Mae gormod o bobl yn dal i deimlo nad oes ganddyn nhw lais. I mi, mae’r gwaith hwn yn ymwneud â rhoi lle i’r lleisiau hynny, chwalu stigma, ac atgoffa eraill – trwy gelf – nad yw ymwybyddiaeth, urddas, ac empathi yn ddewisol.’
Mae’r arddangosfa i’w gweld am y tro cyntaf yn PWSH, Hypha Studios, 111 Heol y Frenhines, Caerdydd, am 18:30 ddydd Llun 9 Mehefin. Bydd yno tan ddydd Sadwrn 14 Mehefin.
Mae’r manylion llawn ar gael yn y Cyngor Celfyddydau Cymru.