Bydd rhaglen frechu arloesol yn helpu i fynd i’r afael â’r lefelau uchaf erioed o’r haint a drosglwyddir yn rhywiol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno rhaglen frechu reolaidd i atal achosion newydd o gonorea. Bydd y brechlyn ar gael i grwpiau cymwys – gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol sy’n wynebu’r risg uchaf o gael eu heintio ac eraill sydd wedi’u hasesu gan glinigydd fel pobl sy’n wynebu risg uchel. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ddiweddarach eleni.
Mae cyfraddau gonorea yn cyrraedd lefelau hanesyddol yng Nghymru, gyda 5,292 diagnosis (EN) o’r haint a drosglwyddir yn rhywiol yn 2023 – cynnydd o 27% o gymharu â 2022 (4,174) a chynnydd syfrdanol o 231% o gymharu â lefelau diagnosis cyn y pandemig yn 2019 (1,599). Ledled y DU, bu cynnydd hefyd yn nifer yr achosion o gonorea sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau. Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru wasanaeth profi cenedlaethol drwy’r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael prawf gonorea, gan godi o 59,443 o bobl yn 2014 i 87,235 yn 2023.
Daw’r penderfyniad ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ar gyfer cyflwyno brechlyn gonorea. Mae rhaglenni brechu hefyd i’w cyflwyno yn yr Alban (EN) a Lloegr (EN).
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno rhaglen frechu ar gyfer brech M, a fydd ar gael yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhaglen yn frechiad cyn-gysylltiad a bydd yn cael ei chynnig i ddynion hoyw a deurywiol sy’n wynebu’r risg uchaf o drosglwyddiad ac unigolion eraill sydd wedi’u hasesu gan wasanaethau iechyd rhywiol fel pobl sy’n wynebu risg.
Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust: ‘Mae’n newyddion gwych bod Llywodraeth Cymru ar fin cyflwyno brechlyn gonorea yng Nghymru ac mae’n nodi eiliad arwyddocaol yn ein cyd-ymdrechion i fynd i’r afael â chyfraddau cynyddol o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
‘Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran darparu gwasanaeth profi cenedlaethol drwy’r post ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac mae’r lefelau uchaf erioed o brofion yn brawf bod hwyluso mynediad at brofion yn gweithio o ran cynyddu’r defnydd ohonynt. Rydyn ni’n falch iawn fod y llywodraeth yn gweithredu i fynd i’r afael â chyfraddau hanesyddol o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol drwy gyflwyno’r rhaglen frechu arloesol hon. Mae’n hanfodol bod clinigau iechyd rhywiol ledled y wlad yn cael eu cefnogi gan y llywodraeth i gyflwyno’r brechlyn hwn, ac mae’r gwaith hwnnw’n dechrau nawr.’