Mae portreadau o Terry Higgins wedi cael eu harddangos yn ei dref enedigol, Hwlffordd.
I nodi’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd 80 oed i Terry Higgins, mae cyfres o bortreadau o’r gŵr a roddodd ei enw i’n helusen wedi cael eu harddangos yn Amgueddfa Tref, Cyngor Tref a Llyfrgell Hwlffordd.
Terry Higgins oedd y person cyntaf a enwyd i farw o salwch cysylltiedig ag AIDS yn y DU. Fe’i ganed yn Sir Benfro ym 1945, bu’n byw yn Hwlffordd a mynychodd yr ysgol ramadeg leol i fechgyn rhwng 1956 a 1960. Bu farw Terry yn Ysbyty St Thomas yn Llundain ym 1982 ar ôl salwch – yn ddim ond 37 oed. Ar ôl ei farwolaeth, sefydlodd ei bartner, Rupert Whitaker OBE, a’i ffrind agos, Martyn Butler OBE, y Terrence Higgins Trust er cof amdano. Heddiw, mae’r elusen yn cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i fyw’n dda, gan gynnwys darparu cymorth gan gymheiriaid ledled Cymru.
I nodi pen-blwydd Terry, rydyn ni’n gofyn i’n cefnogwyr gwych ‘Do it for Terry’, fel y gwnaeth ffrindiau Terry ym 1982. Cliciwch yma (EN) i ddarganfod mwy am ein hymgyrch Do it for Terry, ac i ddysgu am fywyd Terry a’i waddol parhaol.

Terry Higgins – Three Ages of Terry (2023) gan Curtis Holder
Mae’r portread pensiliau lliw hwn gan yr artist Curtis Holder yn darlunio Terry Higgins ar dri chyfnod yn ystod ei oes: yn ei arddegau, yn ddyn ifanc, ac yn yr wythnosau olaf cyn ei farwolaeth o salwch cysylltiedig ag AIDS – un o’r cyntaf yn y DU.
Mae’r llun, sy’n seiliedig ar luniau ac atgofion personol a rannwyd gan ei bartner Rupert Whitaker OBE, yn defnyddio palet coch sy’n symboleiddio’r rhuban coch sy’n arwyddlun rhyngwladol o ymwybyddiaeth HIV.
Mae’r portread gwreiddiol i’w weld yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, gyda chefnogaeth y Terrence Higgins Trust. Cafodd ei ddadorchuddio i nodi’r hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Terry yn 78 oed ac mae’n talu teyrnged i’w fywyd a gwaith y Terrence Higgins Trust o ran codi ymwybyddiaeth o HIV a helpu i gael gwared ar y stigma cysylltiedig.
Mae’r portread hwn ar fenthyg gan y Terrence Higgins Trust i Amgueddfa Tref Hwlffordd tan fis Ionawr 2026.
Terry Higgins (10 Mehefin 1945 – 4 Gorffennaf 1982), portread gan Nathan Wyburn (2022)
Cafodd y portread hwn o Terry o’i ddyddiau ysgol yn Hwlffordd ei baentio mewn lliwiau Cymreig – coch a gwyrdd, gan yr artist Cymreig Nathan Wyburn, gan ddefnyddio stampiau siâp calon – y symbol sydd i’w weld yn logo y Terrence Higgins Trust. Mae’r llun yn talu teyrnged i fywyd Terry a gwaith parhaol yr Ymddiriedolaeth yn codi ymwybyddiaeth o HIV ac yn helpu i gael gwared ar stigma.
Mae’r portread hwn yn brint cyfyngedig sydd wedi’i lofnodi gan yr artist a’i roi i Amgueddfa Tref Hwlffordd gan y Terrence Higgins Trust.

Dywedodd Richard Angell OBE, Prif Weithredwr y Terrence Higgins Trust:
‘Ar 80 mlwyddiant ei eni, rydyn ni’n hynod falch bod portreadau o Terry yn cael eu harddangos ar hyd a lled Hwlffordd – y dref lle treuliodd lawer o’i fywyd cynnar.
‘Mae’r portreadau gwych hyn gan Curtis Holder a Nathan Wyburn yn rhoi cipolwg ar fywyd Terry a’i waddol. Rydyn ni’n falch o rannu ei stori mewn partneriaeth ag Amgueddfa Tref Hwlffordd, Cyngor Tref Hwlffordd a Llyfrgell Hwlffordd’.
Dywedodd Dr Simon Hancock MBE FSA, Curadur Amgueddfa Tref Hwlffordd:
‘Mae’n anrhydedd i Amgueddfa Tref Hwlffordd gynnal yr arddangosfa arbennig hon o gelf i nodi 80 mlwyddiant geni Terrence Higgins yn Hwlffordd. Roedd yn ymgyrchydd ac yn ddylanwadwr cymdeithasol sy’n haeddu bod yn llawer mwy adnabyddus yn y dref lle y treuliodd bron i hanner ei oes. Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Terrence Higgins Trust, Cyngor Tref Hwlffordd a Llyfrgell Hwlffordd i sicrhau bod y pen-blwydd pwysig hwn yn cael ei nodi’n briodol.’
Dywedodd Vanessa Lewis Camacho, Clerc Tref yng Nghyngor Tref Hwlffordd:
‘Rydyn ni’n falch iawn bod y Terrence Higgins Trust wedi cysylltu â ni i helpu i nodi ei 80 mlwyddiant yma yn Hwlffordd, lle cafodd ei eni. Mae’n wych gweithio ochr yn ochr â’r ymddiriedolaeth, a’n llyfrgell a’n hamgueddfa, sydd wedi llunio arddangosfeydd gwych i ddathlu ei fywyd a’i waddol.’
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Llyfrgell Sir Benfro:
‘Mae’n anrhydedd arddangos y llun o Terrence Higgins yn Llyfrgell Hwlffordd, i nodi 80 mlynedd ers ei eni.
Y Terrence Higgins Trust yw prif elusen HIV ac iechyd rhywiol y DU bellach ac mae’n bwysig bod y dyn a ysbrydolodd yr elusen yn cael ei gofio, yn enwedig yma yn ei dref enedigol.
‘Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i weld y llun o Terrence gan Nathan Wyburn a dysgu mwy am Terrence a’r elusen sy’n dwyn ei enw.’