Amser I Gael Prawf

Mynnwch gael eich prawf HDR a HIV yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim.

Profi am HIV a HDRau (SDIs)

Ni allai cael prawf am HIV a HDRau fod yn haws yng Nghymru. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o fentrau i ddarparu profi am ddim, cynnil a chyfrinachol i rywun sydd ei angen.

Fe allwch chi archebu prawf i’w gael ei anfon sy’n hwylus i chi, codwch un mewn canolfannau o bob rhan o Gymru neu ymwelwch â chlinig. Mae’r rhain yn rhad ac am ddim, a bydd y canlyniad yn cael ei anfon i labordy a byddwch chi’n cael eich hysbysu o’r canlyniad. Mae’r rhain yn cael eu galw’n brofion hunan-samplu a byddant yn cynnwys pob HDR gan gynnwys HIV.

Os, am unrhyw reswm, nid yw hynny’n gweithio i chi, gallwch brynu hunan-brofion HIV gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins neu lawer o ddarparwyr eraill. Mae’r rhain ar ffurf pigiad i’r bys neu swab ceg a byddwch chi’n cael canlyniad o fewn 15-20 munud. Os ydych chi’n cael canlyniad adweithiol, ffoniwch THT Direct ar 0808 802 1221 a bydd y tîm yn trefnu canlyniad i gadarnhau.

Archebu prawf hunan-samplu

Mae Iechyd Rhywiol Cymru yn darparu pecyn profi am ddim ar gyfer chlamydia a gonorea a HIV, syffilis, hepatitis B, a hepatitis C. Fe allwch chi ddefnyddio’r pecynnau hyn yn eich cartref eich hun ac yna ei bostio i’r labordy yn yr amlen ragdaledig. Anfonwch y samplau yn eu holau i’r labordy, gan gynnwys y ffurflen gais – gan ni ellir profi’ch samplau hebddi.

Fe all rhywun yng Nghymru archebu hyd at bedwar pecyn mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am brofi drwy’r post, cysylltwch ag [email protected]

Codi prawf hunan-samplu

Fe ellir casglu pecynnau prawf a phost o leoliadau ar draws Cymru. 
 
Maen nhw’n ddelfrydol i rai sy’n well ganddyn nhw beidio ag ymweld â lleoliad gofal iechyd ar gyfer cael eu profi, y rhai sydd heb fynediad digidol er mwyn archebu hunan brofion ar-lein, neu unigolion heb gyfeiriad addas ar gyfer cyflenwi. 

Dewch yn ôl yn aml, gan fod lleoliadau newydd yn cael eu hychwanegu at ein rhestr o fannau lle gellir codi profion yn rheolaidd.

Hunan brawf HIV

Fe allwch chi gael hunan brawf ar gyfer HIV yn unig – mae hwn yn un ai prawf gwaed neu swab ceg sy’n rhoi’r canlyniad ichi mewn 15-20 munud. Maen nhw’n rhad, yn gywir ac yn gynnil, gan adael ichi wybod eich canlyniad yn gyflym.

Fe ellir eu prynu am bris gostyngol o £15 drwy Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Mae ychydig o brofion am ddim ar gael, fel mae cyllid yn caniatáu. Os yw’r gost yn ffactor, ac nid oes unrhyw brofion ar gael, ffoniwch THT Direct a byddan nhw’n trefnu prawf ichi.

Fe allwch chi hefyd pecynnau hunan brawf o Tesco, Boots, Superdrug ac Amazon.

Ymweld â chlinig

Fe allwch chi gael profion cyfrinachol ac yn rhad ac am ddim yn un o glinigau iechyd rhywiol Cymru. Mae pobl broffesiynol wedi’u hyfforddi’n llawn yn awyddus i’ch helpu â’ch anghenion iechyd rhywiol.

Fe allwch chi ymweld ag unrhyw glinig a does dim rhaid ichi fod yn arddangos symptomau i fynychu’r clinig a phrofi am HIV/HDRau.

Tra byddwch chi’n ymweld â’r clinig, efallai byddwch eisiau cofrestru am PrEP neu gael eich brechu rhag hepatitis A a B; Papiloma Dynol (HPV); a brech M.

Dyma restr o’r clinigau a sut i gysylltu:


Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Canolfan Cordell, Casnewydd
Ffôn: 01633 234848 (yn delio ag ymholiadau am PrEP a HIV) neu 01495 765065 (opsiwn 1 ar gyfer Cymraeg neu opsiwn 2 am Saesneg, yna opsiwn 2 am HIV a PrEP).

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Conwy a Sir Ddinbych: 03000 856000 (llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 3pm)
Sir y Fflint a Wrecsam: 03000 856000 (llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 3pm) neu 01978 727197 (9am i 2.30pm)
Sir Fôn a Gwynedd: 03000 850074 (llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 3pm)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Clinig PrEP, Adran Iechyd Rhywiol, YBC
Tel: 029 2033 5208

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd
Tel: 01443 443836

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Tel: 01267 248674

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ysbyty Singleton
Tel: 0300 555 0279
E-bost: [email protected]

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button