Daeth y bilsen atal HIV-PrEP (pre-exposure prophylaxis) ar gael yng Nghymru ar y diwrnod hwn flwyddyn yn ôl.
Meddai Sarah Fuhrmann, rheolwr partneriaeth Terrence Higgins Trust yng Nghymru: ‘Flwyddyn yn ôl I heddiw (dydd Mawrth 17 Gorffennaf), roedd y bilsen atal HIV PrEP ar gael i unrhyw un yng Nghymru sydd ei angen drwy astudiaeth heb ei chapio. Roedd hwn yn gam mawr ymlaen ac rydym yn cymeradwyo Llywodraeth Cymru am hyn. Mae’r data diweddaraf yn dangos nad oes neb sydd wedi cael PrEP ar bresgripsiwn yng Nghymru wedi cael diagnosis o HIV, sy’n tanlinellu pa mor effeithiol ydyw o ran atal trosglwyddo.
‘Mae PrEP yn arf hollbwysig wrth i ni weithio tuag at roi terfyn ar heintiau HIV newydd yng Nghymru, ochr yn ochr â chondomau, profion HIV a thriniaeth effeithiol, sy’n golygu na all pobl sy’n byw gyda HIV drosglwyddo’r firws.
‘Ond mae problemau o hyd o ran cael mynediad at PrEP yng Nghymru. Er enghraifft, gwyddom fod cyfran sylweddol o bobl sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer PrEP yn ei wrthod. Mae angen gwneud gwaith i ddeall pam a chynyddu derbynioldeb PrEP ymhlith pob grŵp yng Nghymru. Oherwydd, yn y pen draw, mae PrEP yn hynod effeithiol o ran atal HIV a dylid ei ystyried yn yr un modd â mesurau ataliol eraill fel y bilsen atal cenhedlu.
‘Mae mwy i’w wneud os ydym am wneud PrEP yn llwyddiant gwirioneddol yng Nghymru. Gwyddom fod y galw am wasanaethau iechyd rhywiol wedi mwy na dyblu rhwng 2011 a 2016, heb gynnydd tebyg mewn adnoddau – ac mae hynny’n cynnwys adnoddau ar gyfer cyflwyno astudiaeth PrEP. Mae’r galw hyd yma wedi golygu bod amseroedd aros sylweddol i gael mynediad at PrEP ac mae rhai pobl yn gorfod teithio y tu allan i’r ardal i gael mynediad at PrEP. Mae angen ariannu gwasanaethau iechyd rhywiol yn llawn i gefnogi astudiaeth PrEP a sicrhau bod pawb sy’n gallu elwa ar PrEP yn cael mynediad ato.
‘Mae materion amlwg hefyd yn ymwneud â chasglu data. Ar hyn o bryd mae gennym fylchau mewn data demograffig, y mae angen mynd i’r afael â nhw ar fyrder fel ein bod yn gwybod pwy yn union sy’n cael mynediad i’r astudiaeth – ac yr un mor bwysig – pwy NAD yw’n cyrchu PrEP yng Nghymru. Os nad ydym yn gwybod pwy sy’n colli allan, ni allwn dargedu na gwerthuso gwasanaethau PrEP mor effeithiol.
‘Mae Cymru wedi cymryd camau breision yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers lansio astudiaeth PrEP. Rhaid inni sicrhau bod y cynnydd hwn yn parhau ac yr eir i’r afael â’r pryderon sy’n weddill ynghylch cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol sy’n rhan o’r astudiaeth, casglu data demograffig, a deall pam mae pobl yn gwrthod PrEP. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod astudiaeth PrEP yn llwyddiant i bawb sydd ei angen.