Fe fuon ni’n siarad â sêr I Kissed A Boy Bobski Budzynski a Jake Devline-Reed a benderfynodd, ar ôl gorymdeithio gyda ni yn Pride yn Llundain, ymgymryd â Hanner Marathon Caerdydd 2023. Fe ofynnon ni i’r ddau beth oedd wedi eu hysbrydoli i ymgymryd â’r her.
Mae gwneud her fel Hanner Marathon Caerdydd yn un o’r ffyrdd gorau y gallwch ein cefnogi. Os yw Bobski a Jake yn eich ysbrydoli, edrychwch ar yr hyn sydd gennym ar y gweill yn ein calendr digwyddiadau sy’n herio.
Rydych chi wedi bod yn gefnogwr anhygoel i Terrence Higgins Trust a nawr rydych chi’n rhedeg hanner marathon. Beth wnaeth eich ysgogi i fod yn gefnogwr mor gryf?
Jake: Rydych chi’n elusen anhygoel i’w chefnogi ac mae darganfod faint o waith rydych chi’n ei wneud i’r gymuned LGBTQ+ mor bwysig ac ysbrydoledig. Rydw i eisiau bod yno bob cam o’r ffordd hyd yn oed os mai dim ond hanner marathon ydyw.
Bobski: Roeddwn i bob amser eisiau bod yn rhan o rywbeth anhygoel ac roedd gallu cynrychioli a chodi arian ar gyfer Terrence Higgins Trust yn rhywbeth amlwg iawn I fi ymgymryd ag ef.
Sut ydych chi wedi bod yn paratoi ar gyfer yr hanner marathon?
Jake: Rydw i wedi bod yn rhedeg i fyny bryniau, traethau a mynyddoedd felly pwy a ŵyr sut y bydd yn troi allan. Roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi bod yn hyfforddi ar gyfer 15K, felly pwy a ŵyr!
Bobski: Rydw i wedi bod yn rhedeg a hyfforddi tennis felly gobeithio bydd fy ffitrwydd yn ddigon da ar gyfer yr hanner!
Beth yw eich hoff gân i redeg iddi?
Jake: Give it All gan Mathew V.
Bobski: Dwi wir yn caru pob cerddoriaeth. Dwi’n mynd ar goll yn y peth tra dwi’n rhedeg – ond yn bendant ychydig o techno! Mae Tell Me Something Good gan Ewan McVicar bob amser yn helpu!
A oes unrhyw wersi neu brofiadau o’ch amser yn y masseria I Kissed a Boy y byddwch yn eu cymryd i mewn i’r rhedeg?
Jake: Dangosodd y profiad nad oes dim byd yn amhosib ac mae’n rhaid I chi fyw eich bywyd i’r eithaf heb fod yn edifar am ddim oherwydd dim ond unwaith rydych chi’n byw.
Bobski: Yn bendant yn aros yn driw i mi fy hun a gwneud hynny cystal ag y gallwch. Gallu aros yn gryf ac yn gadarnhaol.
Doeddech chi ddim yn bartneriaid yn y sioe, ond nawr rydych chi’ch dau yn codi arian i ni ac yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd. A ddylen ni fod yn darllen unrhyw beth i mewn i hynny, haha?
Jake: Pwy a wyr – arhoswch i ddarganfod a oes ail dymor I Kissed A Boy!
Bobski: Wel mae yna ddigon o olygfeydd tu ôl i’r llenni eto i’w gweld felly dydych chi byth yn gwybod…
Pa feddyliau sy’n mynd i’ch cadw chi i fynd wrth i chi redeg y 21km hynny?
Bobski: Byddaf yn meddwl na fydd y llinell derfyn yn dweud celwydd! A chan o Coke llawn braster.
Sut byddwch chi’n dathlu pan fyddwch chi wedi gorffen?
Jake: Gobeithio gwneud dawns hapus! Os gallaf gerdded.
Bobski: Mwy na thebyg eisiau bachu Nando’s a dathlu gyda fy ffrindiau! Os lwydda i hynny yw!