Terrence Higgins Trust yn penodi Rhys Goode i gyflawni Cynllun Gweithredu HIV yng Nghymru

Rhys Goode yn dod yn Bennaeth Terrence Higgins Trust Cymru i helpu i sicrhau bod y wlad yn cyrraedd ei nod o ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.
Rhys Goode

Ar ôl gweithio ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol i gael ymrwymiad i gynllun gweithredu HIV Terrence Higgins Trust yn penodi Rhys Goode i gyflawni Cynllun Gweithredu HIV yng Nghymru.

Rhys Goode yn dod yn Bennaeth Terrence Higgins Trust Cymru i helpu i sicrhau bod y wlad yn cyrraedd ei nod o ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 Yng Nghymru ers 2018, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wthio’r gwaith pwysig hwn yn ei flaen.

Mae’r cynllun gweithredu sy’n manylu ar sut y bydd Cymru yn dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 wedi’i gefnogi’n bersonol gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a’i gydweithwyr yn y cabinet.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU I wneud ymdrech genedlaethol i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn diwedd y ddegawd. Arweiniodd hefyd y ffordd at ddarpariaeth gyffredinol PrEP, y cyffur a gymerir gan bobl sy’n profi HIV negatil i amddiffyn rhag y firws.

Daeth yr ymgynghoriad i ben yn ddiweddar ar y cynllun drafft 26 pwynt ac mae’n aros i’w gyhoeddi. Dyna pam rydyn ni’n ymrwymo’n gyhoeddus i sefydlu presenoldeb sylweddol a chynaliadwy yng Nghymru i sicrhau bod cynnydd yn parhau ar y trywydd iawn a bod pob offeryn yn cael ei ddefnyddio.

Mae gan Rhys Goode hanes o arwain cysylltiadau ac ymgyrchoedd ar draws sectorau i gwmnïau fel JustGiving a Klarna yn fewnol, yn ogystal ag uwch ymgynghorydd llawrydd i sawl brand proffil uchel arall. Mae Goode yn cyfuno ei brofiad â gwybodaeth gartrefol o’r byd gwleidyddol Cymreig, ar ôl tyfu i fyny yng Nghymoedd De Cymru cyn dechrau gyrfa yn Llundain.

Dychwelodd Goode i Dde Cymru ar ddiwedd 2020, ar ôl teimlo’r atyniad yn ôl i laswellt gwyrdd y cartref yn ystod y pandemig i gwblhau MBA ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn gynghorydd lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynrychioli ei bentref genedigol, Nant-y-moel i ddod â’r epidemig i ben.


Rhys Goode

“Mae gennym yr holl offer angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw achosion HIV newydd – nawr mae angen i ni eu defnyddio.”

— Rhys Goode, Pennaeth Terrence Higgins Trust Cymru

Dywedodd Rhys Goode: ‘Rwy mor gyffrous i ymgymryd â’r rôl hon i lunio dyfodol Terrence Higgins Trust Cymru. Mae gennym yr holl offer angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw achosion HIV newydd – nawr mae angen i ni eu defnyddio.

‘Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’n partneriaid eraill ledled Cymru, mae gennym gyfle i yrru trosglwyddiad HIV i ddim erbyn 2030 tra’n brwydro yn erbyn hen stereoteipiau a’r stigma a wynebir gan lawer o’r rhai sy’n byw gyda HIV.

‘Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r Gweinidog Iechyd, ac eraill yn Llywodraeth Cymru, ASau o bob plaid a chynghorwyr a byrddau iechyd ledled y wlad i gyflawni’r nod uchelgeisiol hwn ond hefyd gwella’r mynediad tameidiog (patchy) at wasanaethau iechyd rhywiol y tu allan i Gaerdydd i sicrhau y gall pawb gael mynediad at ofal o ansawdd uchel o fewn eu cyrraedd.’

Dywedodd ein Prif Weithredwr Ian Green: ‘Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i chwarae ein rhan yng Nghymru i gyrraedd y nod o newid bywyd yn llwyr trwy ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 ac wrth ein bodd mai Rhys fydd yn arwain trwy y gwaith hwn.

“Rydyn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw ar gyfer 2030, gan gynnwys mwy o brofion HIV a mynediad at bilsen atal PrEP. Ond ni fydd yn digwydd heb ymdrech ar y cyd a gweithrediad cryf Cynllun Gweithredu HIV uchelgeisiol i Gymru.’

Wrth i’r ymgynghoriad agor ar y Cynllun Gweithredu drafft ar HIV, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan £3.9 miliwn i ddatblygu ymhellach y gwasanaeth profi HIV ar-lein drwy’r post a sefydlwyd yn ystod y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae angen cyllid ychwanegol i hybu ymwybyddiaeth o opsiynau profi HIV, treialu gwell profion yn yr ysbyty ac i ddarparu cymorth gan gymheiriaid i bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button