Rydyn ni’n croesawu Cynllun Gweithredu drafft Llywodraeth Cymru ar HIV

Mae'r cynllun yn cynnig 26 o gamau gweithredu i helpu i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030 yng Nghymru.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Eluned Morgan yn lansio’r ymgynghoriad yn y Senedd, gan wisgo ein bathodyn Calon

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos ar sut y bydd y wlad yn dod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu drafft ar HIV ar gyfer cyflawni’r nod gyda chynigion eang eu cwmpas gan gynnwys profion optio allan HIV, ehangu lle mae bilsen atal HIV PrEP ar gael, a hyfforddiant ymwybyddiaeth HIV gorfodol i weithwyr gofal iechyd i helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd o hyd o gwmpas y firws.

Ymgyrchodd Terrence Higgins Trust Cymru a Fast Track Caerdydd a’r Fro ar y cyd am gynllun gweithredu i fod ym maniffestos pob plaid yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd yn 2021. Roedd y ddau sefydliad ar grŵp Gorchwyl a Gorffen y llywodraeth.

Mae’r cynllun gweithredu wedi’i rannu’n bum maes allweddol:

  1. Atal
  2. Profi
  3. Gofal Clinigol
  4. Byw’n dda gyda HIV
  5. Mynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â HIV

Roedd 48 o bobl newydd gael diagnosis o HIV yng Nghymru a chafodd tua 2,800 o bobl ofal yng Nghymru ar gyfer HIV. Mae Cymru wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn diagnosis HIV newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond mae angen gwneud mwy er mwyn cyrraedd sero o achosion HIV newydd erbyn diwedd y ddegawd.

Fel prif elusen HIV ac iechyd rhywiol y DU, rydym wedi croesawu’r ymgynghoriad a byddwn yn annog ein cefnogwyr i ymateb gyda’u hadborth a’u hawgrymiadau.

Dywedodd ein Prif Weithredwr Ian Green: ‘Mae gennym yr holl arfau angenrheidiol i ddod ag achosion newydd o HIV yng Nghymru i ben erbyn 2030 a dyna pam mae angen i ni ddefnyddio pob un ohonynt ar frys er mwyn gwneud hynny. Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn HIV fel y dangoswyd yn ei chamau cyflym i sicrhau bod y cyffur atal PrEP ar gael yn gyflym a heb gap
‘Heddiw, rydyn ni’n canmol Llywodraeth Cymru am gyflwyno ei chynllun drafft uchelgeisiol ar gyfer ymgynghoriad a’i hymrwymiad clir i gyflawni’r nod hwn sy’n newid bywydau.

“Ochr yn ochr â gwaith i ddod ag achosion newydd o HIV i ben, mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod ni’n rhoi diwedd ar y stigma sy’n dal i fod yn gysylltiedig â’r firws. Rhan allweddol o hynny yw gweiddi am yr holl gynnydd sydd wedi’i wneud yn y frwydr hon, gan gynnwys na all rhywun sy’n byw gyda HIV ac ar driniaeth effeithiol ei drosglwyddo.’

Darllenwch y Cynllun Gweithredu drafft ar HIV i Gymru.

Speak to someone

We’re open:

10am to 6pm, Monday to Friday
Our phone number is 0808 802 1221.

This is free to call from all UK landlines and most major mobile networks. It won’t appear on your telephone bill.

Live chat

We’re trialling a new live chat service to offer you support without the need to make a phone call.

The chat is open Monday to Friday at the following times:

  • 11am to 1pm
  • 3pm to 5pm

Live chat is anonymous and confidential. We’re offering it alongside our phone helpline, initially at the times given above.

At the end of your chat session, you’ll be directed to an online survey about your experience. Please take a few minutes to fill this in as it helps us to understand how live chat is working. We’ll use this feedback to develop the service further.

Styled Chat Button