Cyfrannwch er cof am Terry yng Nghymru

Terry Higgins oedd y person cyntaf yn y Deyrnas Unedig a enwyd yn gyhoeddus i farw o salwch cysylltiedig ag AIDS. Bu farw ym mis Gorffennaf 1982 ac ar ei ôl ef mae ein helusen wedi ei henwi. Ganwyd Terry yn Hwlffordd, a byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed eleni.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol AIDS eleni, rydyn ni eisiau creu’r gofeb gyntaf yn ei dref enedigol a gosod plac i nodi lle ganwyd Terry.
Cyfrannwch er mwyn ein helpu ni i ddathlu gwreiddiau Terry, codi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl sy’n byw gyda HIV ledled Cymru a thu hwnt.
Rhagor o wybodaeth
- 5 ffaith am Terry Higgins. (EN)
- Bywgraffiad swyddogol Terry, Terry, the man. (EN)
- Gwrandewch ar y rhestr chwarae the spirit of Heaven, lle bu Terry yn gweithio fel DJ.