Ymgyrchoedd
HIV, mae'r amser ar ben!

Nawr yw’r amser y gallwch chi helpu i ddod ag epidemig byd-eang sydd wedi lladd 38 miliwn o bobl i ben. Gyda’n gilydd gallwn ddod ag achosion newydd o HIV i ben yn y DU erbyn 2030.
Dychmygwch fyd lle gall y DU fod y wlad gyntaf i ddod â throsglwyddiadau HIV newydd i ben.
Gallwch atal y dinistr a’r stigma y gall diagnosis ei achosi. Mae eich tosturi a’ch cefnogaeth ffyddlon wedi’n cyrraedd mor bell â hyn ac yn golygu y gallwn ei wireddu.
Mae’n bosibl byw gyda HIV a pheidio â’i wybod. Mae arnom angen eich help ar frys i ddod o hyd i bawb sy’n byw gyda HIV yn y DU a’u profi. Ni all pobl â HIV sydd ar driniaeth ei drosglwyddo.
Cyfrannwch nawr (yn agor y dudalen yn Saesneg)
Take action
Yn 2023, cynhaliodd Terrence Higgins Trust, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru ymgyrch bartneriaeth genedlaethol ar PrEP (Pre-Exposure Prophylaxis). Esboniodd yr ymgyrch sut y gellir defnyddio’r cyffur i atal HIV a ble i gael gafael arno yng Nghymru. Aeth sgriniau digidol ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar draws y wlad â’n neges i’r Cymry, yn Saesneg ac yn Gymraeg