Traws
Beth yw bod yn iach yn rhywiol?
- Beth yw bod yn iach yn rhywiol?
Bod yn ymwybodol o’r hyn yr ydych yn gyfforddus gydag ef mewn perthynas â rhyw - Yn gwybod sut i greu perthynas ddiogel gyda rhyw
- Yn deall y risgiau a’r buddion y math o ryw yr hoffech ei gael
- Boed ydych yn archwilio’ch hunaniaeth, wedi trawsnewid, wedi cael llawdriniaeth neu’n cymryd hormonau, neu wedi penderfynu gwneud hynny ai peidio, mae gennych yr hawl am ryw iach sy’n eich gwneud yn hapus.
- Gall hormonau achosi newid yn eich awydd am ryw. Efallai yr hoffech archwilio a thrio pethau newydd gyda phobl wahanol. Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae mwy o ffyrdd nag erioed i amddiffyn eich hun a’ch partner(iaid).
Llywio rhyw hapus ac iach
Mae bod yn rhywiol iach yn golygu meddu ar yr hyder a’r sgiliau i ofyn am y rhyw sy’n gwneud i chi deimlo’n dda, yr ydych chi a’ch partner(iaid) wedi cytuno arno. Gall cyfathrebu gyda’ch partner cyn ac ar ôl rhyw fod yn brofiad lletchwith weithiau, ond dyma’r ffordd orau o sicrhau bod y ddau ohonoch chi’n hapus ac yn gyfforddus gyda’r hyn sy’n digwydd. Cofiwch, cewch newid eich meddwl ar unrhyw bryd a rhoi’r gorau iddi.
Mae cyfathrebu cyn cael rhyw yn ffordd dda o benderfynu ar ba rwystrau a mesurau amddiffyn yr ydych chi am eu defnyddio.
Dysgu rhagor am lywio rhyw a chaniatâd
tht.org.uk/trans
Llawdriniaeth a hormonau
Os ydych wedi cael llawdriniaeth cadarnhau rhywedd yn ddiweddar ac nid yw eich croen wedi dod at ei hun eto, gallai hyn ei gwneud hi’n haws i chi gael eich heintio â HIV neu ei drosglwyddo i rywun arall.
Gall cymryd hormonau hefyd gynyddu’r risg o waedu yn ystod rhyw gweiniol/twll blaen a rhefrol. Defnyddiwch ddigonedd o lŵb a chondom, a gwiriwch am unrhyw rwygiadau yn rheolaidd.
Gall testosteron achosi symptomau yn y wain/twll blaen, megis sychder, poen a gwaedu wrth gael rhyw, a gollwng sylwedd y gellir ei gamgymryd yn hawdd am symptomau rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Cewch ragor o wybodaeth yma tht.org.uk/trans
Gwasanaethau Abertawe Sylwch fod mynychu trwy apwyntiad yn unig.
Profi HIV
Ar gyfer profion HIV, ewch i Glinig Singleton trwy apwyntiad yn unig neu archebwch brawf am ddim ar-lein gan Iechyd Rhywiol Cymru
Cynghori I bobol sy’n byw gyda HIV
Mae ein gwasanaeth cynghori yn cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV i archwilio beth mae’n ei olygu iddyn nhw – o ddiagnosis, i berthnasoedd, i gadw at feddyginiaeth, i ddechrau teulu, i fyw gydag afiechydon eraill, a phopeth arall sy’n cyfrif.
Nod ein cynghorydd yw darparu lle diogel i chi, heb farnu, lle gallwch ddysgu sut i ddelio â’ch HIV a byw bywyd iach a boddhaus.
Mae ein gwasanaeth cynghori hefyd yn cynnig cyfle i bobl weithio tuag at ddeall eu hunain o ran eu hunaniaeth rywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, a delio â materion chemsex.
Sylwch mai trwy apwyntiad yn unig y cynhelir cynghori. I drafod a yw cynghori yn iawn i chi ac i wneud apwyntiad yn unig, anfonwch e-bost at [email protected].
Gwaith a Sgiliau
Cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV sy’n ddi-waith ac sy’n awyddus i ddychwelyd i’r gwaith trwy weithdai arlein, mentora arlein a chysylltiadau I wirfoddoli a chyfleoedd gwaith www.tht.org.uk/workandskills
Grŵp Cymorth Cyfoedion Cyn 96
Grŵp cymorth cyfoedion misol ar-lein ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis hirdymort I drafod pynciau sy’n bwysig iddyn nhw. Yr ail dydd Mawrth ymhob mis 4-5.30pm trwy zoom www.tht.org.uk/livingwell
Grŵp Cymorth Cyfoedion Bond Cyffredin
Grŵp cymorth cyfoedion misol ar-lein ar gyfer menywod sy’n byw gyda HIV (gan gynnwys menywod traws a phobl anneuaidd sy’n byw gyda HIV) i gwrdd ag eraill a dysgu a thyfu gyda’i gilydd. Trydydd dydd Mawrth y mis 7 – 8:30pm trwy Zoom. www.tht.org.uk/livingwell
Fy Fforwm Cymunedol
Fforwm ar-lein dan arweiniad cyfoedion ar gyfer pobl sy’n byw gyda HIV lle gall pobl â HIV sgwrsio’n “fyw” trwy sgwrs grŵp neu sgwrs breifat ag aelodau neu wirfoddolwyr. www.tht.org.uk/forum
HIV
Mae rhai pobl draws mewn risg uwch o HIV, yn ôl rhai astudiaethau byd-eang.
Syniad da yw cael eich profi am HIV o leiaf unwaith y flwyddyn os ydych yn cael rhyw, neu’n fwy aml os oes gennych chi fwy nag un partner rhywiol, pan ydych wedi cael partner rhywiol newydd neu os ydych wedi cael diagnosis o haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI).
Mae’r driniaeth ar gyfer HIV yn effeithiol iawn ac yn golygu y gallwch fyw bywyd hir ac iach. Mae modd teilwra meddyginiaeth HIV er mwyn ei hatal rhag ymyrryd ag
Mae’r driniaeth ar gyfer HIV yn effeithiol iawn ac yn golygu y gallwch fyw bywyd hir ac iach. Mae modd teilwra meddyginiaeth HIV er mwyn ei hatal rhag ymyrryd ag unrhyw driniaeth hormonau y gallech fi fod yn ei derbyn. Y peth gorau i’w wneud yw mynd am brawf er mwyn dechrau’r driniaeth yn gynnar ac atal salwch difrifol.
Yn ôl tystiolaeth wyddonol, nid yw pobl sy’n dioddef o HIV ac sy’n cael triniaeth effeithiol yn gallu trosglwyddo’r feirws ymlaen i unrhyw un arall.
Ewch i: tht.cymru/niallbasioymlaen. am ragor o wybodaeth.
Mae llawer o ffyrdd i brofi am HIV. Gallwch brofi’ch hunan gartref a chael canlyniadau yn syth hyd yn oed.
Sut a lle mae gwneud prawf
Mae llawer o opsiynau ar gyfer profi HIV.
Mae’n rhwydd, yn gyflym, yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim.
Gallwch fynd am brawf mewn:
- clinig iechyd rhywiol
- canolfan brofi HIV, gan gynnwys y rheini a redir gan yr Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
- ymarferydd cyffredinol/meddyg teulu
- cartref
- archebu profion ar-lein – chwiliwch ar-lein am wasanaethau profi HIV rhad ac am ddim tht.cymru/cy/prawf
PrEP
Mae PrEP (proffylacsis cyn-amlygiad) yn bilsen a gymerir gan berson HIV negatif cyn ac ar ôl rhyw drwy’r wain/blaen a/neu’r anws.
Mae’n hynod effeithiol o ran atal HIV rhag cael ei drosglwyddo o’i gymryd yn gywir.
Mae dewisiadau dosio yn dibynnu ar y math o ryw rydych chi’n ei gael.
- Ni fydd PrEP yn ymyrryd â’ch triniaeth hormonau.
- Nid yw PrEP yn eich amddiffyn chi rhag unrhyw haint a drosglwyddir yn rhywiol neu feichiogrwydd annisgwyl.
- Gallwch hawlio PrEP yn rhad ac am ddim gan y GIG drwy glinig iechyd rhywiol.
- Gellir prynu PrEP o ffynhonnell ddibynadwy.
- Ceir rhagor o wybodaeth yn tht.cymru/cy/ynamddiffyn
https://www.tht.org.uk/sexual-health/trans-people/trans-masculine
tht.org.uktransmascprep
PEP
Tra y cymerir PrEP cyn rhyw, cymerir PEP (proffylacsis ar ôl cysylltiad) ar ôl rhyw er mwyn atal HIV rhag datblygu os ydyw eisoes wedi cyrraedd y corff. Rhaid cymryd PEP cyn gynted â phosibl cyn pen 72 awr, ac yn ddelfrydol cyn pen 24 awr ar ôl digwyddiad lle allech chi fod mewn risg o gael eich heintio â HIV.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi’ch amlygu i HIV, ewch i glinig iechyd rhywiol neu’r adran damweiniau ac achosion brys i drafod a oes angen PEP arnoch ai peidio.
Condomau a llenni rwber
Pan gânt eu defnyddio’n gywir, gall condomau atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol rhag cael eu trosglwyddo. Defnyddiwch gondom newydd ar gyfer pob partner a pheidiwch â defnyddio’r un condom ar gyfer rhyw rhefrol a rhyw gweiniol/twll blaen.
Maent i’w cael mewn amrywiaeth o feintiau ac mae’n bwysig defnyddio’r un cywir ar eich cyfer chi a’ch rhannau rhywiol. Defnyddiwch lŵb sydd wedi’i wneud o ddŵr neu silicon yn unig, yn hytrach na rhai olew neu hufenau sy’n gallu gwanhau latecs.
Haen o latecs a ddefnyddir fel rhwystr ar gyfer rhyw gweiniol/twll cyntaf drwy’r geg a chylchu’r rhefr yw llen rwber a gall atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol rhag cael eu trosglwyddo.
Mesurau atal cenhedlu
Nid yw testosteron yn fesur i atal cenhedlu. Dylech drafod gyda’ch meddyg pa opsiynau atal cenhedlu addas sydd ar gael i chi. Os ydych yn bryderus am feichiogrwydd annisgwyl, ewch i’ch clinig iechyd rhywiol neu fferyllfa i gael y bilsen atal cenhedlu frys.
Ni fydd mesurau atal cenhedlu brys yn ymyrryd â’ch cynllun testosteron.
Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol
Gall heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) effeithio ar unrhyw un a chânt eu trosglwyddo rhwng pobl drwy bob math o ryw, gyda phob mathau o rannau’r corff a thegannau rhyw.
Condomau a llenni rwber yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Mae modd sgrinio am haint a drosglwyddir yn rhywiol yn gyflym, yn rhad ac am ddim ac yn ddi-boen a gallwch fynd â’ch samplau eich hun gyda chi o’r rhannau rhywiol yr ydych chi’n eu defnyddio ar gyfer rhyw.
Nid pawb fydd yn dangos symptomau, felly mae’n bwysig profi’n rheolaidd ac ar ôl cael partner rhywiol newydd. Mae modd trin y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gyda gwrthfiotigau.
- Cewch ragor o wybodaeth ynghylch heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a sut mae profi amdanynt yn
- tht.cymru/test
Apiau chwilio am gariad
Os ydych chi’n bwriadu cwrdd â rhywun nad ydych chi’n ei nabod neu rywun y cyfarfuoch ar ap chwilio am gariad, ac efallai’n bwriadu cael rhyw gyda’r unigolyn hwnnw, hysbyswch ffrind am eich cynlluniau. Siaradwch am yr hyn yr ydych yn gyfforddus yn ei wneud. Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl pan fyddwch yn cwrdd â’r unigolyn. Cofiwch fynd â chondomau a lŵb a/neu lenni rwber gyda chi rhag eich bod yn penderfynu cael rhyw.
Beth am alcohol, cyffuriau a rhyw?
Gall cymysgu alcohol neu gyffuriau a rhyw roi hwb i’ch hwyliau a lleihau eich swildod a all effeithio ar eich synnwyr cyffredin. Gall hyn olygu eich bod yn cymryd risgiau yn ystod rhyw na fyddech yn eu cymryd fel arfer.
Pa un ai a hoffech tynnu’n ôl rhywfaint, bod yn fwy diogel neu roi’r gorau iddi yn gyfan gwbl, gall ceisio cymorth wneud byd o wahaniaeth. Gall teulu a ffrindiau fod yn ffynhonnell wych o gefnogaeth ac mae gwasanaethau lleol ar gael i’ch helpu hefyd.
Traws and anneuaidd eichyd rhywiol
Traws and anneuaidd eichyd rhywiol
Ceir rhagor o wybodaeth fwy manwl yn
tht.cymru/cy/traws
Ceir gwybodaeth ynghylch iechyd rhywiol a PrEP yn
tht.org.uk/transfemprep
https://www.tht.org.uk/sexual-health/trans-people/trans-masculine
tht.cymru/protects
tht.cymru/test
tht.cymru/cy/prawf
shwales.online
Am gefnogaeth gyda cham-drin domestig, ewch i galop.org.uk